1.  Cyflwyniad

Mae’r BBC yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at yr adolygiad hwn o radio yng Nghymru. Yn rhy aml, mae radio’n gyfrwng nad yw’n cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu er gwaethaf ei apêl a’i effaith oesol i gynulleidfaoedd.

 

Serch bod tirlun y cyfryngau yn newid, mae Radio’r BBC yn parhau’n rhan greiddiol o fywyd bob dydd i lawer. Ledled y DU, mae’n cyflwyno gwybodaeth, yn addysgu ac yn diddanu bron i 35 miliwn o bobl bob wythnos. A 95 mlynedd ers y darllediad radio cyntaf yng Nghymru, mae Radio’r BBC yn parhau i wneud cyfraniad hanfodol i  gymdeithas, diwylliant a bywyd cenedlaethol yng Nghymru.

 

Nodwn fod yr adolygiad wedi amlinellu nifer o feysydd mae'n awyddus i’w harchwilio.  Pwrpas y dystiolaeth hon yw rhoi trosolwg i’r pwyllgor o ddarpariaeth radio’r BBC yn gyffredinol yng Nghymru. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys ein gwasanaethau radio cenedlaethol – BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a Radio Cymru 2 a lansiwyd yn ddiweddar - yn ogystal â gwasanaethau radio rhwydwaith y BBC.

 

2.  Cynulleidfaoedd Radio’r BBC yng Nghymru - trosolwg

Mae Radio'r BBC yn denu mwy o wrando yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Mae tua 70% o oedolion yng Nghymru’n clywed unrhyw ddarpariaeth gan Radio’r BBC bob wythnos - ffigwr llawer uwch na’r gwledydd eraill: Gogledd Iwerddon (59%) a’r Alban (60%). O ran cyfran y farchnad, mae Radio’r BBC yn cyfrif am 56% o’r holl oriau gwrando yr wythnos yng Nghymru (gyda gorsafoedd rhwydwaith yn cyfrif am 48% a Radio Wales/Radio Cymru’n ychwanegu 8% arall). Eto, mae hyn yn uwch nag yn unrhyw le yn y DU.

 

Gellir priodoli’r perfformiad cryf  hwn i raddau helaeth i apêl gwasanaethau rhwydwaith fel Radio 1, Radio 2 a Radio 4 – a gwendid cymharol radio masnachol.[1] Yn benodol, mae twf cynulleidfa Radio 2 yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn nodedig. Yn 2016-17, roedd  37% o oedolion yng Nghymru’n gwrando ar Radio 2 bob wythnos (tuag 1 miliwn o wrandawyr), gyda phob gwrandäwr yn treulio 12.5 awr yr wythnos ar gyfartaledd gyda'r orsaf.

 

2.1     Cynulleidfaoedd Radio Wales a Radio Cymru  

 

Mae ein gwasanaethau radio cenedlaethol, Radio Wales a Radio Cymru, yn cyflawni rôl anhepgor fel rhan o bortffolio radio’r BBC.  Mae’r ddwy orsaf yn cefnogi ymrwymiad BBC Cymru i gefnogi a chryfhau dinasyddiaeth yng Nghymru, gydag ymrwymiad cadarn a chynhwysfawr i newyddion, materion cyfoes, chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliant,

 

Ar gyfartaledd, mae 372,000 o bobl yn gwrando ar BBC Radio Wales bob wythnos (cyfartaledd RAJAR ar gyfer 2017). Mae cyfran Radio Wales o’r holl wrando ar y radio yng Nghymru oddeutu 5% ac mae'r orsaf yn y pumed safle o ran gwrandawyr yng Nghymru y tu ôl i BBC Radio 1, BBC Radio 2, BBC Radio 4 a Heart South Wales. Ar gyfartaledd, mae gwrandawyr Radio Wales yn gwrando am tuag 8 awr yr wythnos.

 

Mae BBC Radio Cymru yn cyrraedd 127,000 o oedolion yng Nghymru - gyda phob gwrandäwr ar gyfartaledd yn treulio mwy nag 11 awr bob wythnos gyda'r orsaf. Radio Cymru yw’r orsaf fwyaf poblogaidd ymhlith siaradwyr rhugl Cymraeg, yn cyfrif am 20% o’u holl wrando ar y radio yn 2017. Ddeugain mlynedd ers ei sefydlu, mae Radio Cymru’n parhau i fod yn sylfaen i’r ddarpariaeth cyfryngau Cymraeg gyffredinol, gan gyfrif am fwy na 60% o’r holl oriau ar y cyfryngau Cymraeg a ddefnyddir gan gynulleidfaoedd.

 

 

3.  BBC Radio Wales

 

Sefydlwyd BBC Radio Wales fel gwasanaeth cenedlaethol yn ei hawl ei hunan ym mis Tachwedd 1978 – achlysur y gellid dadlau, yn ôl disgrifiad yr hanesydd Dr John Davies, oedd y digwyddiad unigol pwysicaf yn hanes darlledu Cymraeg.[2]

 

Roedd y dechreuadau nôl ym 1978 yn rhai digon di-nod gyda dim ond 45 awr yn cael eu darlledu bob wythnos ond erbyn hyn mae Radio Wales yn darparu gwasanaeth llafar llawn i oedolion, gan gynnig amrywiaeth eang o raglenni sy’n adlewyrchu materion, digwyddiadau, diwylliant a diddordebau pobl Cymru. Yn 2016/17, roedd cyllideb weithredol Radio Wales yn £14.2m gyda 7,593 o oriau darlledu. O blith yr oriau hyn, mae 1,868 yn oriau Newyddion a Materion Cyfoes, gyda rhaglenni cyffredinol yn cyfrif am 5,725 o oriau pellach.

 

Ar ddiwedd 2016, penodwyd Colin Paterson yn Olygydd newydd yr orsaf. Mae gwaith wedi dechrau yn awr ar gryfhau safle’r orsaf yng Nghymru, cyn iddi ddathlu ei phen blwydd yn 40 yn 2018. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar Good Morning Wales - gan gefnogi newyddiaduraeth sy’n berthnasol i’n cynulleidfa ni, chwaraeon sy’n dod â’r genedl at ei gilydd, gwell amrywiaeth a dyfnder yn nghynnwys rhaglenni’r dydd a chadarnhau cefnogaeth BBC Cymru i gomedi gwreiddiol.

 

Mae’r cyflwynwyr newydd sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan yr orsaf yn cynnwys cyflwynydd BBC Wales Today Lucy Owen, yr athletwr Olympaidd Colin Jackson, y gantores Connie Fisher a chyn gyflwynydd ar BBC Radio 2, Janice Long. 

 

 

 

 

 

 

 

3.1  Newyddion a Chwaraeon

 

Mae Radio Wales yn chwarae rhan hanfodol mewn rhoi gwybodaeth i gynulleidfaoedd Cymru drwy gyfrwng rhaglenni newyddion a chwaraeon o safon uchel.

 

Prif elfen cynnwys newyddion yr orsaf yw’r rhaglen Good Morning Wales gyda bwletinau newyddion drwy gydol y dydd hyd at ac yn cynnwys Good Evening Wales. Mae’r ddwy brif raglen yma’n defnyddio canolfannau casglu newyddion y BBC ledled Cymru, gan gynnwys Wrecsam, Bangor, Caerfyrddin ac Abertawe, yn ogystal â’n rhwydwaith o ohebwyr lleol.

 

Rhoddir sylw i bynciau amserol hefyd gyda rhaglen ffonio i mewn Jason Mohammad / Dot Davies yn y bore. Mae Eye on Wales yn darparu rhaglenni materion cyfoes ac yn ddiweddar mae wedi rhoi sylw i bynciau heriol a phwysig fel seicosis ôl-eni.

 

Darperir allbwn gwleidyddol Radio Wales gan dîm gwleidyddol BBC Cymru  yng Nghaerdydd a San Steffan. Gyda’r DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Radio Wales yn elwa hefyd o waith dau ohebydd Brexit ychwanegol - rhan o gynlluniau ailfuddsoddi Siarter newydd y BBC. Ar ddyddiau Sul, mae Vaughan Roderick yn cyflwyno rhaglen drafod wleidyddol, Sunday Supplement, sy’n rhoi sylw i faterion yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

 

Mae sylw Radio Wales i chwaraeon yr un mor helaeth. Mae lleisiau cyfarwydd a dibynadwy fel Rob Phillips a Nathan Blake yn dod â’r newyddion diweddaraf am bêl droed cartref a rhyngwladol Cymru (dynion a merched) ac mae Gareth Charles a Nick Webb yn rhoi sylw i gemau rygbi cartref, gemau’r Pro 14 a gemau Rygbi'r Undeb Rhyngwladol. Mae’r sylwebaethau ar Griced Sirol Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw ar iPlayer radio ac mae'r gemau T20 a T40 yn cael eu darlledu ar y Donfedd Ganol. Fis Ebrill eleni, bydd yr orsaf yn rhoi sylw helaeth i ymdrechion tîm Cymru yng Ngemau Cymanwlad yr Arfordir Aur 2018.

 

3.2 Cerddoriaeth

 

Mae Radio Wales yn noddwr pwysig i ddiwylliant Cymru drwy gyfrwng ei rhaglenni cerddoriaeth, adloniant a chelfyddydau.   

 

Mae datblygu a hybu cerddoriaeth Gymreig yn rhan greiddiol o’i chenhadaeth ar raglenni yn ystod y dydd, fel Wynne Evans ac Eleri Siôn, yn ogystal ag ar raglenni eraill mwy arbenigol, fel Bethan Elfyn a Celtic Heartbeat, sy’n cael ei chyflwyno gan Frank Hennessy.

 

Yn 2017, cryfhaodd Radio Wales y gwaith mae’n ei wneud yn hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig newydd gan gyflwyno ‘The Welsh A List’; 40% o’r gerddoriaeth ar restr chwarae o gerddoriaeth newydd sy’n cael ei chynhyrchu bob pythefnos.  Mae ‘The Welsh A List’ yn rhoi sylw cyfartal i bedwar artist o Gymru, sy’n perfformio yn Saesneg neu yn y Gymraeg, ar yr amserlen.

 

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae Radio Wales hefyd wedi cefnogi menter gerddoriaeth ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae artistiaid o bob cwr o Gymru’n cael eu dewis bob blwyddyn i fod yn rhan o brosiect Gorwelion, sy’n helpu i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd yng Nghymru. Mae artistiaid Gorwelion yn cael sylw ar raglen Janice Long, sy’n cael ei darlledu o Wrecsam bob gyda’r nos yn ystod yr wythnos, ac ar adegau amrywiol eraill ar yr amserlen.

 

Hefyd mae cerddoriaeth fyw’n rhan greiddiol o raglenni’r orsaf. Mae perfformiadau byw’n cael eu darlledu yn ystod dyddiau’r wythnos ac mae hyd at bedwar sesiwn byw y mis ar sioe Janice Long. Hefyd rydym yn darlledu o wyliau pwysig yng Nghymru, gan gynnwys Proms Yn Y Parc, Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Focus a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

 

Fis Mai eleni, bydd BBC Radio Wales yn gweithio â chydweithwyr o BBC Radio 1 i sicrhau bod digwyddiad y Biggest Weekend sy’n cael ei gynnal yn Abertawe’n cynnwys y goreuon ymhlith perfformwyr y DU a Chymru.  

3.3 Rhaglenni Adloniant, y Celfyddydau a Dogfen                  

 

Mae Radio Wales yn arbennig o frwd ei chefnogaeth i  gomedi yng Nghymru. Ymhlith rhai o’r enwau allweddol sy’n gweithio gyda Radio Wales ar hyn o bryd mae Ruth Jones, Elis James a Steve Speirs. Hefyd eleni byddwn yn ffurfio partneriaeth gyda BBC Radio 4 Extra i gefnogi Gŵyl Gomedi Machynlleth.

 

Mae datblygiadau ar draws y byd celfyddydol yng Nghymru’n cael sylw rheolaidd ar ein rhaglenni newyddion a dyddiol, tra mae Nicola Heywood Thomas yn cyflwyno adolygiadau, adroddiadau a dadansoddiad wythnosol ar y Radio Wales Arts Show.  Fis Ebrill byddwn yn lansio rhaglen newydd sbon yn adolygu’r celfyddydau yn fisol.  Bydd yn cael ei chyflwyno gan Gary Raymond, Golygydd Wales Arts Review

 

Hefyd mae BBC Radio Wales yn cynhyrchu amrywiaeth o raglenni ffeithiol a hanes. Ymhlith y rhai sydd wedi cael sylw’n ddiweddar mae stori Blanche Parry, cyfeilles agos i Frenhines Elizabeth 1, a golwg gynhwysfawr ar Edward Thomas gan fardd arall, Gwyneth Lewis, i nodi canmlwyddiant ei farwolaeth ym Mrwydr Arras.  

 

4. BBC Radio Cymru

 

Mae’n amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd BBC Radio Cymru i siaradwyr Cymraeg.  Ddeugain mlynedd ers ei lansio, dyma’r orsaf radio fwyaf poblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda’i chyfuniad unigryw o gerddoriaeth, trafodaeth, adloniant, diwylliant a newyddion.

I siaradwyr Cymraeg, dyma ein siambr drafod, ein theatr, ein neuadd gyngerdd, ein stadiwm chwaraeon, ein capel, ein man cyfarfod, ein llyfrgell, ein clwb comedi, a’n tafarn leol i gyd o dan yr un to. Y ffordd orau i grynhoi’r amrywiaeth a’r arbenigrwydd yma yw drwy deitlau rhai o raglenni Radio Cymru: o adloniant Sioe Tudur Owen i ganu emynau cynulleidfaol Caniadaeth y Cysegr, a chyfweliadau treiddgar Beti George ar Beti a’i Phobol.

Yn ei deugeinfed flwyddyn, mae gan yr orsaf gyllideb weithredu o £13.6m y flwyddyn ac mae’n darlledu 7,262 o oriau.[3] Mae hyn yn cynnwys 1,335 o oriau o Newyddion a Materion Cyfoes, tra mae 5,927 o oriau’n cynnwys rhaglenni cerddoriaeth, llafar, y celfyddydau ac adloniant. 

 

4.1 BBC Radio Cymru 2

 

Lansiwyd BBC Radio Cymru 2 yn ddiweddar, ym mis Ionawr 2018, ac mae’n rhan allweddol o gynlluniau ailfuddsoddi Siarter newydd BBC Cymru.

 

Mae’r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth brecwast arall ar DAB, DTV a BBC iPlayer Radio yn genedlaethol. Tra mae prif wasanaeth Radio Cymru’n parhau i ganolbwyntio ar newyddion amser brecwast, mae Radio Cymru 2 yn cynnig cymysgedd o adloniant a cherddoriaeth ar gyfer y gwrandawyr yn awr.

 

Y bwriad strategol tu ôl i Radio Cymru 2 yw cynnig dewis arall yn y Gymraeg i wrandawyr presennol Radio Cymru a gwrandawyr newydd o bosib. Mae Daf a Caryl yn cyflwyno Y Sioe Frecwast (Llun-Iau) tra mae Huw Stephens yn cyflwyno ar foreau Gwener. Mae Lisa Angharad yn cyflwyno ar foreau Sadwrn a Lisa Gwilym ar foreau Sul. 

 

4.2 Newyddion a Chwaraeon

 

Mae Radio Cymru’n darparu gwasanaeth newyddion dibynadwy i’w wrandawyr, gan ddechrau gyda’r Post Cyntaf yn y bore, sy’n cael ei gyflwyno gan Kate Crockett yng Nghaerdydd a Dylan Jones ym Mangor. Ategir y Post Cyntaf gan raglen y Post Prynhawn gyda’r nos, sy’n cael ei chyflwyno gan Dewi Llwyd a Nia Thomas o Fangor.

 

Mae’r rhaglenni newyddion yn cyflwyno cyfuniad o newyddion Cymru, y DU a rhyngwladol.  Mae’r rhaglenni hefyd yn defnyddio holl adnoddau casglu newyddion y BBC yn ogystal â gallu nodedig Radio Cymru i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o’r byd.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi cynnwys Radio Cymru’n darparu adroddiadau o ansawdd uchel ar ddigwyddiadau arwyddocaol fel Refferendwm Brexit, ymosodiadau terfysgol Paris ac ethol Donald Trump yn Arlywydd UDA. 

 

Mae Garry Owen yn cyflwyno Taro’r Post dros ginio, sef rhaglen i wrandawyr ffonio i mewn iddi, ac mae Manylu yn rhaglen sy’n cyflwyno materion cyfoes a straeon heriol yn gyson. Mae Hawl i Holi, a gadeirir gan Dewi Llwyd, yn cynnig rhaglen yn arddull Question Time o leoliadau ledled Cymru ac mae O’r Bae yng ngofal Vaughan Roderick yn darparu crynodeb wythnosol o ddigwyddiadau ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan.  

 

Mae Camp Lawn ar ddyddiau Sadwrn yn cynnig sylw cynhwysfawr i chwaraeon yng Nghymru, gan gynnwys pêl droed a rygbi’r undeb gartref ac yn rhyngwladol. Ategir sylwebaeth ar gemau a darlledu byw gan y sioe bêl droed ar ddydd Sadwrn, Ar y Marc, a sylw rheolaidd gyda’r nos yn ystod yr wythnos i gemau pêl droed allweddol.

  

4.3 Rhaglenni cerddoriaeth

 

Ers y dechrau un, mae Radio Cymru wedi bod yn hyrwyddwr cyson o gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n gwneud hynny’n ddyddiol ac mae wedi bod yn ffenest siop i artistiaid newydd ac artistiaid sydd wedi ennill eu plwy. Mae’r ystod o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei darlledu’n ymestyn o elfennau yn y bore fel rhaglen Sian Cothi i sioeau mwy arbenigol fel sioeau gyda’r nos Rhys Mwyn neu Georgia Ruth.

Gyda dyfodiad Radio Cymru 2, mae Radio Cymru yn awr yn cynnig y swmp a’r dewis mwyaf erioed o ran cerddoriaeth Gymraeg. Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddodd BBC Radio Cymru ei bod wedi sicrhau cytundeb pum mlynedd gydag asiantaeth breindaliadau, Eos, ar gyfer y defnydd o gerddoriaeth ar orsaf Gymraeg ei hiaith BBC Cymru, Radio Cymru 2, yn ogystal â gwasanaethau darlledu eraill y BBC ledled y DU.

Y bartneriaeth fawr arall yw menter Gorwelion a ddisgrifiwyd yn gynharach. Ers 2014, mae’r fenter hon wedi helpu llawer o artistiaid newydd o Gymru, gan gynnwys Casi, Yr Eira a Candelas, gyda bwrsarïau, dosbarthiadau meistr a sylw ar gyfryngau darlledu.

 

Yn ogystal, mae cerddoriaeth yn sylfaen i ddarpariaeth helaeth Radio Cymru o Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Eleni, bydd Radio Cymru’n gweithio’n agos â threfnwyr Eisteddfod yr Urdd yn Aberhonddu a Sir Faesyfed, a’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, i sicrhau bod y ddwy ŵyl yn cael sylw darlledu cynhwysfawr o’u lleoliadau arloesol.

 

Yn olaf, mae Radio Cymru’n rhan ganolog o bartneriaeth gynhyrchiol gyda Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda Brwydr y Bandiau yn gyfle unigryw i fandiau ifanc berfformio ar lwyfan mwy.

 

4.4 Rhaglenni Adloniant, y Celfyddydau a Dogfen

 

Mae BBC Radio Cymru yn gyfrifol am nifer o gomisiynau artistig pwysig, yn enwedig mewn mathau o raglenni lle nad oes llawer o ddarpariaeth Gymraeg arall.

 

Mae ysgrifennu comedi a drama’n faes hynod bwysig, gyda’r orsaf wedi comisiynu awduron fel Siôn Eirian, John Ogwen a Manon Steffan Ros yn ddiweddar. Mae’r rhaglen gelfyddydol wythnosol Stiwdio, sy’n cael ei chyflwyno gan Nia Roberts, yn gyfle am drafodaeth fanylach ar y materion hyn ac mae Talwrn y Beirdd yn gystadleuaeth farddol wythnosol o fri o leoliadau ledled Cymru. Mae Llyfr Bob Wythnos yn rhoi sylw i lyfr sydd wedi’i gyhoeddi o’r newydd bob wythnos ac mae’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r corff i gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg, Cwlwm Cyhoeddwyr.  

 

Mae ymfalchïo yn hanes unigryw Cymru wedi bod yn llinyn cyson drwy gydol hanes BBC Radio Cymru. Cofnododd Hanes yr Iaith Gymraeg mewn 50 Gair gan Ifor ap Glyn ddatblygiad yr iaith mewn 50 o ddarnau byrion. Hefyd nododd yr orsaf dri chanmlwyddiant geni’r emynydd, William Williams Pantycelyn.

 

5. Cynhyrchu rhwydwaith Radio’r BBC yng Nghymru

 

Ochr yn ochr â gwaith Radio Wales a Radio Cymru, mae BBC Cymru hefyd yn cynhyrchu nifer mawr o raglenni radio rhwydwaith ar gyfer BBC Radio 3 a BBC Radio 4 ym maes drama, rhaglenni ffeithiol, cerddoriaeth a’r celfyddydau.

 

Yn ystod 2016/17, cynhyrchwyd cyfanswm o 379 o oriau o raglenni gennym ar gyfer y rhwydweithiau hyn yn y DU.

 

Ym maes dramâu radio, o dan arweinyddiaeth ac arbenigedd Alison Hindell, rydym yn gweithio gydag awduron profiadol yn ogystal â meithrin talentau newydd, gan weithio’n agos â Writersroom Wales.

 

Ymhlith uchafbwyntiau’r llynedd roedd Tracks, cyfres gyffrous am gynllwyn cudd wedi’i lleoli yng Nghymru. Roedd y gyfres gyntaf (a ddarlledwyd yn haf 2016) yn flaenoriaeth fawr i Radio 4 a chynigiwyd y 9 pennod fel cyfle ‘iPlayer First’ i lawrlwytho’r bennod nesaf yn syth ar ôl darlledu’r bennod wythnosol. Cafodd ei lawrlwytho gymaint hyd nes iddi gyrraedd rhif 1 yn siart podlediadau iTunes a rhyddhawyd yr ail gyfres ar-lein i’w lawrlwytho sawl wythnos cyn ei darlledu ar y radio (ym mis Rhagfyr 2017). Bydd y 3edd gyfres yn dechrau yn hydref 2018.

 

Prosiect golygyddol allweddol arall a gyflwynwyd yn ddiweddar oedd Curious Under the Stars - cyfres a grëwyd yn wreiddiol gan y diweddar Meic Povey. Wedi’i lleoli mewn pentref ffuglennol ar arfordir Gorllewin Cymru, dyma ddrama gomedi gynnes sy’n cynnwys golwg newydd ar chwedloniaeth Cymru gyda chyffyrddiad realaidd hudolus.

 

Wedi’u comisiynu eisoes ar gyfer y 12 mis nesaf mae gennym ddrama newydd The Mabinogion ar gyfer Radio 3; The Castle of the Hawk, dechrau ar gyfres fawr a pharhaus yn portreadu hanes llinach Habsburg a The Life and Times of Maya Angelou, gyda phob un o’r 6 chyfrol o hunangofiant Angelou wedi’u dramateiddio mewn cyfres ar gyfer Radio 4.

 

Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglenni ffeithiol yn rheolaidd ar gyfer Radio 4, gyda’r golygydd radio rhwydwaith Martin Smith yn gweithio’n agos â chomisiynwyr Radio 4 a Radio 3 yn Llundain.

 

Ymhlith uchafbwyntiau Radio 4 yn 2017 roedd The Black Chair, rhaglen ddogfen am Hedd Wyn a gyflwynwyd gan y bardd Mab Jones; Snapshots, rhan o gyfres ar ffotograffiaeth yn rhoi sylw i un o glybiau’r gweithwyr ym Mhort Talbot; Wintertide, gwaith a gomisiynwyd yn arbennig ac yn cael ei ddarllen gan Cynan Jones a Cân yr Adar: Song of the Birds, cydweithrediad cerddorol rhwng Kizzy Crawford a Gwilym Simcock.

 

Wedi’u comisiynu eisoes ac i gael eu cynhyrchu yn nes ymlaen eleni ar gyfer Radio 4 mae gennym ni: Behind the Scenes: Kully Thiarai - yn dilyn cyfarwyddwr newydd National Theatre Wales - On and Off the Valleys Lines, â’i ffocws ar fywydau’r bobl sy’n teithio ar drenau Lein y Cymoedd, ac Opening Night, rhaglen yn rhoi sylw i nosweithiau agoriadol lleoliadau theatr ledled Cymru.

 

Hefyd mae BBC Cymru yn cynhyrchu nifer o raglenni radio rhwydwaith ar gyfer Radio 3. Yn 2016/17, roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys rowndiau terfynol Young Musician yng Nghaerdydd; BBC Canwr y Byd Caerdydd; cyngherddau amser cinio Gŵyl y Gelli; Choir of the Year Final o Ganolfan Mileniwm Cymru; In Parenthesis gan Opera Cenedlaethol Cymru; a rhaglen arbennig ar ddydd Sul: I Know an Island: R M Lockley gyda Jon Gower yn ymweld ag Ynys Sgogwm oddi ar arfordir Sir Benfro.

 

 

 

 

 

 

5. Darlledu radio daearol yng Nghymru

 

Er bod Radio Wales a Radio Cymru wedi’u cynnwys ar lwyfannau BBC iPlayer Radio, Freeview, Cebl a Sky, mae darlledu gwasanaethau ar FM a DAB wedi bod yn destun trafod a phryder cyhoeddus sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

5.1     Darlledu ar FM

 

Ar FM, mae Radio Cymru bellach yn cael ei darlledu i 95% o Gymru, yn debyg i orsafoedd rhwydwaith y BBC. Fodd bynnag, mae BBC Radio Wales wedi bod ar ei hôl hi erioed gan ei bod wedi dewis darpariaeth y Donfedd Ganol wrth gael ei lansio yn 1977 ac, ers hynny, mae wedi bod yn ceisio dal i fyny.

 

Yn 2017, cyhoeddodd BBC Cymru gynlluniau ar gyfer ehangu mawr ar ddarlledu BBC Radio Wales ar FM - gan gynyddu darpariaeth yr orsaf o 79% i 91% o aelwydydd. Mae disgwyl y bydd y cynnydd i ddarpariaeth BBC Radio Wales ar FM o fudd penodol i wrandawyr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a Chanolbarth Cymru. Bydd yr ehangu’n cael ei gyflawni drwy ddefnyddio nifer bach o donfeddi FM y rhwydwaith bresennol, sydd wedi’u neilltuo i BBC Radio 3 ar hyn o bryd.

 

5.2      DAB

 

Yn 2017, cwblhawyd ein gwaith o ehangu rhwydwaith DAB Cenedlaethol y BBC. Roedd hyn yn cynnwys 20 o drosglwyddyddion yng Nghymru, gan gynyddu darpariaeth gwasanaethau rhwydwaith y BBC yng Nghymru i 92% o aelwydydd a 72% o brif ffyrdd.

 

Mae Radio Wales a Radio Cymru’n cael eu trosglwyddo ar gapasiti a gedwir gan Ofcom ar aml-blecsau masnachol lleol nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y BBC. Hefyd cefnogodd y BBC yr ehangu ar yr aml-blecsau masnachol hyn yng Nghymru - gan ymrwymo cyllid sylweddol tan 2030. Mae hyn wedi cefnogi’r gwaith o adeiladu neu addasu 19 o drosglwyddyddion hyd yma, gydag un neu ddau yn rhagor i’w cwblhau fel rhan o’r cam hwn o’r gwaith. Yn dilyn y gwelliannau diweddar, mae darpariaeth BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru ar DAB wedi cynyddu i 82% o aelwydydd a 61% o ffyrdd.

 

5.3  Dyfodol radio analog (FM a’r Donfedd Ganol)

 

Rhaid i unrhyw drafodaethau ar y seilwaith darlledu gael eu gosod yng nghyd-destun cynlluniau Newid Analog DDCMS. Rydym yn disgwyl i wrando digidol (DAB, ar-lein, DTV) gyrraedd 50% yn y chwarter cyntaf eleni, gan sbarduno adolygiad gan DDCMS o bennu dyddiad ar gyfer newid ai peidio.

 

Barn y BBC ar y mater hwn yw ein bod yn cydnabod pwysigrwydd adolygiad o’r fath i’r gadwyn gyflenwi, ond rydym yn meddwl bod rhaid i Lywodraeth y DU roi ystyriaeth ofalus i arferion cynulleidfaoedd wrth iddynt esblygu, yn enwedig cynulleidfaoedd iau, ac uchelgais seilwaith y DU yng nghyswllt 5G.


Os bydd DDCMS yn penderfynu dechrau ar y broses newid, mae’r BBC wedi ymrwymo i sicrhau bod yr un gyfran yn y bôn o aelwydydd yn y DU sy’n derbyn gwasanaethau radio’r BBC mewn ffurf analog (MW/FM) yn gallu derbyn y gwasanaethau hynny’n ddigidol, yn amodol ar asesiad gwerth am arian llawn gan y BBC. 

 

6. Edrych ymlaen - yr her ddigidol

 

Er gwaethaf apêl oesol radio i’r rhan fwyaf o wrandawyr, mae patrymau gwrando cynulleidfaoedd iau’n cael eu heffeithio gan gysylltedd band eang cynyddol, twf gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth a’r defnydd gan bron iawn pawb o ffonau clyfar, gan arwain at gystadlu cynyddol am amser hamdden ac adloniant [4].

Er bod radio’n parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd ifanc mewn niferoedd mawr, mae nifer cyffredinol yr oriau gwrando’n lleihau. Yn 2011, roedd pobl ifanc 15 i 19 oed ledled y DU yn gwrando ar y radio am gyfartaledd o 14 awr 49 munud yr wythnos. Erbyn 2016, roedd y ffigur hwn wedi gostwng i 10 awr 50 munud - colled o 239 o funudau gwrando yr wythnos.[5]

Mae cynulleidfaoedd iau’n rhannu eu hamser yn awr rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth sain. Mae gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth, traciau digidol a fideos cerddoriaeth i gyd yn cyfrif am gyfrannau uwch o wrando ar gyfer ieuenctid 15 i 24 oed na’r gynulleidfa o oedolion yn ei chyfanrwydd. Wrth i’r ymddygiad hwn ehangu, bydd rhaid i’r BBC ail-ddychmygu dyfodol radio, gan ddefnyddio galluoedd technegol newydd a datblygu cynnwys sain newydd er mwyn parhau’n berthnasol i gynulleidfaoedd.

Mae ein gwasanaethau radio cenedlaethol (gan gynnwys Radio Cymru 2) eisoes yn elwa o raddfa a gallu technegol BBC Radio iPlayer. Ond mae gan bersonoli a mewngofnodi botensial clir i gyflawni datblygiadau pellach yn y maes hwn gydag algorithmau a sbardunir gan ddata sy’n ein galluogi i dargedu ein gwrandawyr yn well.

Hefyd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae BBC Cymru wedi ehangu ei darpariaeth sain ar alw fel ymateb i’r farchnad sy’n newid. Mae’r rhain yn cynnwys podlediad pêl droed Elis James a hefyd Pigion ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Byddwn yn cyhoeddi ehangu pellach yn y maes hwn yn fuan.

Ochr yn ochr â datblygu cynnwys newydd, mae’n rhaid i ni sicrhau hefyd bod y rhaglenni Cymraeg yn hawdd eu darganfod ar raglenni sain newydd, yn enwedig y rhai a reolir gan lais. Mae’n galonogol bod Radio Cymru 2 ar gael drwy Alexa ar Amazon.

Yn anochel, bydd ein gallu ni i arloesi yng Nghymru - ac i gynnig ystod ehangach o wasanaethau cyfryngau personol ac ar alw - yn dibynnu i raddau helaeth ar y seilwaith band eang sydd ar gael. Yn benodol, mae dosbarthiad radio yn ystod y 10 i 15 mlynedd nesaf yn debygol o fod â ffocws cynyddol ar dechnolegau band eang 5G - maes lle mae Cymru, ar hyn o bryd, yn cael ei thanwasanaethu o gymharu â rhannau eraill o’r DU.[6] Bydd cynnydd yn y maes hwn yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn berthnasol mewn marchnad defnyddwyr sy’n datblygu’n gyflym.

 

 



[1] Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC (2016/17), 2016/17, t.39

[2] Broadcasting and the BBC in Wales, John Davies, Caerdydd, 1994, t. 347

[3] Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC, 2016/17, tt.39 a 94 (d.s. nid yw’r oriau hyn yn cynnwys Radio Cymru 2 a lansiwyd yn ddiweddar).

[4] Enders Analysis, Radio’s relevance to young adults in danger, t.4,  Gorffennaf 2016

[5] RAJAR Q3 2011-2016

[6] Ofcom Connected Nations Report, Wales (2017), p.40